P-05-690 – Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sara Jones ar ôl casglu 22 llofnod.
Mae'r ddeiseb wedi casglu 142 o lofnodion ar wefan e- ddeiseb arall.
Geiriad y ddeiseb
Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid yr hen arwyneb concrit ar ffordd yr A40 o Rhaglan i'r Fenni, am darmac tawel (Whispering Tarmac).
Mae'r Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn (2013-18) yn nodi y dylid rhoi blaenoriaeth i'r ffordd hon, ar ôl derbyn yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac ar ôl gwneud y mesuriadau. Er hynny, ni chafwyd unrhyw gynnydd er gwaethaf galwadau parhaus gan drigolion, y Cynghorydd Sir lleol , yr Aelod Cynulliad a'r Aelod Seneddol.
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn nodi y dylid rhoi'r flaenoriaeth gyntaf i'r ffordd hon, o ystyried y pryderon niferus a godwyd gan y cyhoedd a chynrychiolwyr a'i bod wedi'i nodi o dan Gynllun Gweithredu ynghylch Sŵn presennol Llywodraeth Cymru.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Mynwy
· Dwyrain De Cymru